Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol 

Constitutional and Legislative Affairs Committee

 

 

 

 

 

Bae Caerdydd / Cardiff Bay

Caerdydd / Cardiff

CF99 1NA

 

2 Awst 2011

Annwyl Gyfaill

Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r arfer o roi pwerau i Weinidogion Cymru yn uniongyrchol yn Neddfau San Steffan, yn ogystal â materion cysylltiedig fel gweithredu Nodiadau Cyfarwyddyd ar Ddatganoli.Bydd hefyd yn ystyried yr arfer o ddynodi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i weithredu rhwymedigaethau’r Undeb Ewropeaidd. Yr egwyddor a fydd yn cael ei ymchwilio yw a ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol gymryd cyfrifoldeb llwyr dros ddirprwyo pwerau o’r fath i Weinidogion Cymru.

Cefndir

Mae’r canlyniad cadarnhaol yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 3 Mawrth eleni yn golygu bod gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd deddfwriaethol eang. Mae’r cymhwysedd hwn wedi’i nodi yn fanwl yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fodd bynnag, mae rhai darnau sylweddol o ddeddfwriaeth sydd gerbron Senedd y DU ar hyn i bryd, fel y Bil Cyrff Cyhoeddus, yn ceisio dirprwyo pwerau pwysig i Weinidogion Cymru. Rhagwelir y bydd deddfwriaeth San Steffan yn parhau i roi pwerau i Weinidogion Cymru heb gyfranogiad uniongyrchol y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys mewn meysydd lle mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol.

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i edrych ar sut mae’r trefniadau hyn yn gweithredu. Bydd yr ymchwiliad yn edrych yn benodol ar sut y caiff y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ei weithredu, y canllawiau technegol ar gyfer adrannau Whitehall a nodir yn y Nodiadau Cyfarwyddyd ar Ddatganoli a’r prosesau ar gyfer cytuno ar gydsyniad deddfwriaethol drwy Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried pa wersi a ddysgwyd hyd yn hyn y gellir eu cymhwyso i drefniadau ar gyfer dirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru yn y dyfodol. Bydd y Pwyllgor yn cael ei lywio gan yr egwyddor gyffredinol na ddylid rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn meysydd sydd wedi’u datganoli heb ganiatâd gwybodus y Cynulliad Cenedlaethol, ac y dylai’r Cynulliad allu gwneud gwaith craff priodol yn ystod y broses dan sylw.

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried rhagor o’r wybodaeth gefndirol, a gellir gweld rhagor o fanylion yn papur atodedig a baratowyd gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad.

 

Gwahoddiad i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig

 

Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar:

 

 

Dylid anfon ymatebion, naill ai ar ffurf copi caled neu’n electronig, i’r cyfeiriad canlynol erbyn 30 Medi 2011 fan bellaf:

 

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Tŷ Hywel

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Caerdydd CF99 1NA

 

e-bost: CLA.Committee@wales.gov.uk

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion ar ôl toriad yr haf.

 

Mae rhagor o wybodaeth gefndirol am y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a chanllawiau ar sut i gyflwyno tystiolaeth wedi’u hatodi i’r llythyr hwn.

 

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Steve George, Clerc y Pwyllgor, ar 029 2089 8242 neu Olga Lewis, y Dirprwy Glerc, ar 029 2089 8154.

 

Yn gywir

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Atodiad

 

YMCHWILIAD I ROI PWERAU I WEINIDOGION CYMRU YN NEDDFAU SAN STEFFAN

 

Cylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cylch gwaith y Pwyllgor yw cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21 ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol neu lywodraethol arall sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru.

Mae’r Pwyllgor yn ystyried pwysigrwydd gwleidyddol a chyfreithiol yr holl offerynnau statudol neu offerynnau statudol drafft a wneir gan Weinidogion Cymru, yn ogystal ag agweddau technegol ar yr offerynnau hynny. Mae’r Pwyllgor yn adrodd ynghylch a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i’r offerynnau ar sail Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn ystyried pa mor briodol yw’r darpariaethau ym Miliau’r Cynulliad a Biliau Senedd y DU sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol wneud is-ddeddfwriaeth, ac yn adrodd ar hynny.

 

Canllawiau ar gyflwyno cyfraniadau ysgrifenedig

 

Wrth baratoi eich cyfraniad, dylech gadw’r pwyntiau a ganlyn mewn cof:

 

Y wybodaeth i’w chynnwys

 

Fel rheol, dylai tystiolaeth ysgrifenedig gynnwys dogfen hunangynhwysol yn ogystal â llythyr eglurhaol. Dylid cyflwyno tystiolaeth sydd mor gryno â phosibl (ni ddylai’r memorandwm fod yn fwy na chwe thudalen A4 o hyd)

 

Dylai’r llythyr eglurhaol nodi:

 

enw a manylion cyswllt yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth;

a yw’r dystiolaeth yn cael ei chyflwyno ar ran sefydliad neu unigolyn;

unrhyw gais i gyflwyno tystiolaeth lafar;

unrhyw gais i’r Pwyllgor drin rhan neu’r cyfan o’r dystiolaeth yn gyfrinachol, gan nodi’r rhesymau dros hynny.

 

(Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi ymatebion i ymgynghoriad

cyhoeddus, er mwyn i’r cyhoedd graffu arnynt ac fel bod Aelodau’r Cynulliad yn gallu’u gweld a’u trafod mewn cyfarfodydd Pwyllgor.

 

Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb neu’ch enw, mae’n bwysig eich

bod yn nodi hyn yn glir wrth gyflwyno’ch tystiolaeth a’ch rhesymau dros

hynny.

 

Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol na fydd eich tystiolaeth o bosibl yn dylanwadu cymaint ar ystyriaethau’r Pwyllgor. Dylech fod yn ymwybodol

hefyd y gellir cyhoeddi neu ddatgelu’r wybodaeth a roddir gennych yn eich

ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth am gwmni, a hynny yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.)

 

Dylai’r memorandwm gynnwys y wybodaeth a ganlyn:

 

crynodeb o’r prif bwyntiau a wnaed yn eich tystiolaeth;

cyflwyniad cryno i’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth,

gan nodi eu maes arbenigedd;

unrhyw wybodaeth ffeithiol sydd gennych i’w chynnig y gallai’r Pwyllgor ei

defnyddio i ddod i gasgliadau, neu y gellir ei chyflwyno i dystion eraill i weld

beth yw eu hymateb;

unrhyw argymhellion y mae’r cyflwynydd am i’r Llywodraeth, neu rywrai eraill, eu gweithredu ac y gallai’r Pwyllgor eu hystyried a’u cynnwys yn ei adroddiad i’r Cynulliad;

Dylai eich ymateb drafod y materion y mae’r Pwyllgor yn eu hystyried, yn

enwedig y rhai a amlinellwyd yn y gwahoddiad hwn i gyflwyno tystiolaeth.

 

(Dylech gymryd gofal rhag cynnwys sylwadau am faterion sydd gerbron

llys barn ar hyn o bryd, neu faterion sydd ar fin mynd drwy lys barn. Os

ydych yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd, dylech drafod â Chlerc y

Pwyllgor sut y gallai hyn effeithio ar y dystiolaeth ysgrifenedig y gallwch ei

chyflwyno.)

 

Sut i fformadu eich tystiolaeth

 

Rhai pwyntiau i’w nodi:

 

Dylid rhifo paragraffau i gynorthwyo’r Pwyllgor wrth iddo drafod y

dystiolaeth yn ystod sesiynau llafar.

Mae croeso i chi gynnwys deunydd atodol gyda’ch memorandwm—er

enghraifft taflenni neu erthyglau o gyfnodolion—ond dylech sicrhau bod eich memorandwm yn hunangynhwysol.

Os ydych am ddefnyddio lliw yn eich tystiolaeth, sicrhewch fod modd

gwneud synnwyr o’r dystiolaeth ar ffurf du a gwyn hefyd oherwydd gall

aelodau o’r Pwyllgor benderfynu defnyddio fersiynau sydd wedi’u llungopïo

yn ystod y Pwyllgor.

Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth ar ffurf electronig, dylai’ch memorandwm

fod ar fformat Microsoft Word, Rich Text neu PDF.